BBC Canwr y Byd Caerdydd
2007
• Y dechrau’n chwilio am un o sêr
newydd disgleiriaf byd yr opera
• Y Wobr i’r enillydd
yn cynyddu i £15,000
Mae’r chwilio ar draws y byd ar gyfer sêr
y dyfodol ym myd yr opera - er mwyn eu cael i gystadlu
am yr anrhydedd o ennill cystadleuaeth BBC Canwr
y Byd Caerdydd 2007 a gwobr ariannol o £15,000
- wedi cychwyn.
Mae cantorion ifanc o bob cyfandir wrthi ar hyn
o bryd yn cystadlu mewn rhagbrofion yn y gobaith
o gael cynrychioli eu gwledydd yng nghystadleuaeth
ganu arobryn y byd.
Trefnir BBC Canwr y Byd Caerdydd gan BBC Cymru Wales
mewn cysylltiad ag Opera Cenedlaethol Cymru a Dinas
a Sir Caerdydd.
Mae ymgynghorydd cerddorol y gystadleuaeth Julian
Smith yn teithio’r byd er mwyn cynnal rhagbrofion
i alluogi cantorion o bedwar ban byd gael cynnig
ar hawlio lle yn ffurfafen y byd operatig.
Bydd y 25 cystadleuydd fydd yn cyrraedd y rownd
derfynol yn teithio i Gaerdydd ddechrau haf nesaf
er mwyn canu yn Neuadd Gyngherddau Genedlaethol
Cymru, Neuadd Dewi Sant, ger bron rheithgor o enwogion
a chynulleidfaoedd fydd llawn mor graff.
Dywedodd Julian Smith; “Bydd dros 600 o gantorion
uchelgeisiol yn gobeithio am le yng nghystadleuaeth
BBC Canwr y Byd Caerdydd. Bydd rhagbrofion yn digwydd
mewn lleoliadau yn ymestyn o Rio i St Petersburg
ac o Toronto i Melbourne. Bydd y cantorion rheini
fydd yn cael eu dewis yn arddangos lefel uchaf o
ddawn leisiol, gallu cerddorol a medrau cyfathrebu.”
Bydd y gyfres o gyngherddau i ddethol yr un fydd
yn cipio gwobr fwyaf byd yr opera yn 2007 yn cael
eu cynnal rhwng Sadwrn Mehefin 9fed a Sul, Mehefin
17..
Bydd yr enillydd yn dilyn ôl traed sêr
operatig megis Karita Mattila (Ffindir, 1983), Katarina
Karnéus (Sweden, 1995) Dmitri Hvorostovsky
(Rwsia, 1989), Lisa Gasteen (enillydd 1991) ac enillydd
y Wobr Lieder gyntaf ym 1989, Bryn Terfel o Gymru.
Mae enillydd y gystadleuaeth - a gynhelir bob yn
ail flwyddyn - yn 2005 yr Americanes Nicole Cabell
wedi saethu i enwogrwydd rhyngwladol. Mae’r
soprano delynegol wedi arwyddo cytundeb recordio
ecscliwsif gyda Decca ar gyfer ei albwm datganiad
solo cyntaf sydd i’w ryddhau yn ystod 2007.
![](cabell.jpg)
Ym mis Awst 2006 ymddangosodd
Nicole am y tro cyntaf yng nghyfres Proms y BBC
yn Les illuminations Britten ac ym mis Medi ymddangosodd
am y tro cyntaf yn y Ty Opera Brenhinol yn y Barbican
fel y Dywysoges Eudoxie mewn perfformiad cyngerdd
o i La Juive.
Bydd enillydd 2007 yn derbyn £15,000 sy’n
gynnydd o £5,000 yn y wobr ariannol. Mae’r
gwobrau i’r pedwar arall sy’n cyrraedd
y rownd derfynol wedi cynyddu hefyd o £500
i £2,500. Gwnaed hyn yn bosib diolch i nawdd
newydd oddi wrth Ymddiriedolaeth Richard Lewis.
Yn ogystal gall fod y bydd yr enillydd yn cael cynnig
hefyd gyfleoedd proffil uchel i berfformio gyda’r
BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad
John Nelson, a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru
dan arweiniad Carlo Rizzi, yn cyfeilio’r cystadleuwyr
yng nghyngherddau’r rowndiau cychwynnol. Cerddorfa
Genedlaethol Gymreig y BBC fydd yn cyfeilio i’r
cystadleuwyr yn y rownd derfynol.
Gwobr y Gân Rosenblatt BBC Canwr y
Byd Caerdydd
Gall y 25 cystadleuydd gystadlu hefyd am
Wobr y Gân Rosenblatt BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Mae’r gystadleuaeth hon ar ffurf cyfres o
bedair cyngerdd ragbrofol yn y Theatr Newydd gyda
rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant.
Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £5,000.
Yn ogystal gall fod y byddant yn derbyn gwahoddiad
i ddarparu datganiad fel rhan o Gyfres Ddatganiadau
Rosenblatt yn St John’s Smith Square, Llundain,
ac o bosib hefyd eu dewis i fod yn un o Artistiaid
y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3. Y cyfeilyddion
fydd Llyr Williams, Simon Lepper a Phillip Thomas.
Cynhelir Meistr Wersi yn ystod y gystadleuaeth hefyd,
o dan arweiniad cewri o’r byd opera fel Brigitte
Fassbaender a Siegfried Jerusalam, ddydd Sadwrn,
Mehefin 16.
Bydd cynulleidfaoedd yn Neuadd Dewi Sant, ar y teledu,
y radio ac ar-lein unwaith eto yn medru lleisio
barn trwy Wobr y Gynulleidfa, a noddir gan Croeso
Cymru.
Manylion Archebu
Mae ffurflenni archebu trwy’r post
bellach ar gael ar gyfer tocynnau tymor BBC Canwr
y Byd Caerdydd a chyngerdd y rownd derfynol ar gyfer
Gwobr y Gân Rosenblatt yn Neuadd Dewi Sant
yn ogystal â thocyn tymor ar gyfer cystadleuaeth
Gwobr y Gân Rosenblatt, sy’n cynnwys
pedair cyngerdd y rownd ragbrofol a chyngerdd y
rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant. Gellir prynu
tocynnau hefyd ar gyfer y Meistr Wersi yn y Theatr
Newydd, ddydd Sadwrn, Mehefin 16. Mae ffurflenni
archebu ar gael o swyddfa docynnau Neuadd Dewi Sant
trwy ffonio 029 2087 8444 neu ar-lein o bbc.co.uk/cardiffsinger
Mae modd archebu'r holl docynnau o Chwefror 24ain
2007 ymlaen gan gynnwys tocynnau ar gyfer cyngherddau
unigol ar gyfer BBC Canwr y Byd Caerdydd a chystadleuaeth
Gwobr y Gân Rosenblatt. Gellir archebu yn
bersonol neu trwy’r post o Neuadd Dewi Sant,
Yr Ais, Caerdydd CF10 1SH, neu trwy ffonio 029 2087
8444 ynteu ar-lein o stdavidshallcardiff.co.uk
o Chwefror 24, 2007 ymlaen.
Am ragor o wybodaeth a delweddau
o’r gystadleuaeth cysylltwch â;
Mike Smith, BBC Canwr y Byd Caerdydd, Tel: +44 (0)
29 20 462686 Symudol: +44 (0) 7795 325161 E-bost:
mike@mediasmith.co.uk
Gwefan: www.mediasmith.co.uk
Bill
Kenny